Gwiber

Adder

©Jon Hawkins

Gwiber

Enw gwyddonol: Vipera berus
Ein hunig neidr wenwynig, gellir gweld y wiber swil yn torheulo yn yr heulwen mewn llennyrch mewn coetiroedd ac ar rostiroedd.

Species information

Ystadegau

Length: 60-80cm
Weight: 50-100g
Average lifespan: up to 15 years

Statws cadwraethol

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Mawrth i Hydref

Ynghylch

Mae'r wiber yn neidr gymharol fach, fyrdew sy'n ffafrio cynefinoedd coetir, rhostir a gweundir. Mae'n hela madfallod a mamaliaid bach, yn ogystal ag adar sy'n nythu ar y ddaear, fel yr ehedydd a chorhedydd y waun. Yn y gwanwyn, mae’r gwiberod gwryw yn perfformio 'dawns' a bryd hynny byddant yn cynnal gornest i atal cystadleuaeth i baru. Mae benywod yn deor yr wyau yn fewnol, gan 'roi genedigaeth' i dri i ugain o rai bach byw. Mae gwiberod yn gaeafgysgu o fis Hydref ymlaen, gan ddod i'r golwg yn ystod dyddiau cynnes cyntaf mis Mawrth, sef yr amser hawsaf o'r flwyddyn i ddod o hyd iddynt yn torheulo ar foncyff neu o dan graig gynnes.

Sut i'w hadnabod

Mae'r wiber yn neidr lwydaidd gyda phatrwm igam ogam tywyll a nodedig iawn i lawr ei chefn, a llygaid coch. Mae’r gwrywod yn tueddu i fod yn fwy ariannaidd eu lliw, a’r benywod yn oleuach neu’n frowngoch. Weithiau mae posib gweld ffurfiau du (melanistig).

Dosbarthiad

Maent i’w cael ledled y wlad, heblaw am Ynysoedd Sili, Ynysoedd y Sianel, Gogledd Iwerddon ac Ynys Manaw.

Roeddech chi yn gwybod?

Y wiber yw unig neidr wenwynig y DU, ond yn gyffredinol nid yw ei gwenwyn yn creu perygl mawr i bobl: gall brathiad gwiber fod yn boenus ac achosi llid, ond dim ond i blant ifanc iawn, neu bobl sâl neu hen mae’n beryglus mewn gwirionedd. Fodd bynnag, os cewch eich brathu, dylech gael sylw meddygol ar unwaith. Mae gwiberod yn anifeiliaid cyfrinachol ac mae'n well ganddyn nhw lithro i'r isdyfiant yn hytrach na wynebu a brathu bodau dynol ac anifeiliaid dof; mae'r rhan fwyaf o ymosodiadau'n digwydd pan gânt eu sathru neu eu codi. Yn hytrach, maent yn defnyddio eu gwenwyn i lonyddu a lladd eu hysglyfaeth, sef mamaliaid bach, cywion a madfallod.