Morgi Lleiaf

Small-spotted catshark

Small-spotted catshark ©Alex Mustard/2020VISION

Catshark skin

Small-spotted catshark skin ©Alex Mustard/2020VISION

Morgi Lleiaf

Enw gwyddonol: Scyliorhinus canicula
Roedd morgathod brych bach yn arfer cael eu galw’n forgwn brych lleiaf – ac efallai mai felly’r ydych chi’n eu hadnabod orau. Yr un siarc yw hwn, ond gydag enw gwahanol!

Species information

Ystadegau

Ystadegau: Hyd: 100cm

Statws cadwraethol

Cyffredin ac wedi'i restru fel y Pryder Lleiaf ar Restr Goch yr IUCN.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr.

Ynghylch

Siarc bach yw'r forgath frech fach ac mae wedi cael ei henw oherwydd y smotiau tywyll a'r blotiau sy'n gorchuddio ei chroen. Mae gan bob siarc groen garw iawn, wedi'i orchuddio â "deintiglau croenol" caled - sy'n llythrennol yn golygu "dannedd croen bach". Os cânt eu rhwbio yn y ffordd anghywir, maent yn fras iawn fel papur tywod ond mae'n rhoi amddiffyniad effeithiol i'r siarc.

Mae morgathod yn ysglyfaethwyr ac yn bwydo ar grancod, molysgiaid a physgod bach eraill. Wrth wynebu bygythiad, maen nhw'n cyrlio i siâp toesen - i edrych yn fwy mae'n debyg ac yn anoddach i'w bwyta! Maen nhw’n gyffredin iawn o amgylch y DU ac yn byw yn agos at wely'r môr mewn dyfroedd bas hyd at 100m o ddyfnder. Weithiau maen nhw'n dod i’r lan yn farw ar ein traethau ni ar ôl stormydd, ond rydych chi'n fwy tebygol o ddod ar draws plisg eu hwyau. Yn cael eu hadnabod fel pyrsiau’r fôr-forwyn, mae plisg wyau siarcod (a morgathod a garwbysgod) yn arwydd da o ba rywogaethau sy'n magu gerllaw. Mae gan y forgath frech fach blisg wyau bach (5-7cm) gyda thendriliau cyrliog ar bob cornel.

Sut i'w hadnabod

Y siarc mwyaf cyffredin ym moroedd y DU. Mae'n llai ac yn fwy brych na'r morgi brych sy'n brinnach (sy’n cael ei adnabod hefyd fel y morgi brych mawr neu'r morgi tarw). Mae gan y forgath frech fach groen hufen golau garw iawn, llygaid mawr tywyll tebyg i gath a cheg fechan. Mae'r plisg wyau neu 'byrsiau’r fôr-forwyn' i'w gweld yn aml wedi'u golchi i'r lan. Maent yn 5-7cm o hyd gyda thendriliau cyrliog yn dod o'r corneli.

Dosbarthiad

I’w weld ar hyd arfordiroedd y DU.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gan y forgath yma enwau cyffredin eraill fel ‘ci garw’, ‘morgi brych lleiaf’ a hefyd ‘eog y graig’, ac o dan yr enw yma mae’n ymddangos weithiau ar y fwydlen mewn siopau pysgod a sglodion. Yr un anifail yw'r morgi a’r forgath!