
Honey Bee swarm ©Margaret Holland

Honey Bee ©Nick Upton/2020VISION

Honey Bees ©Chris Gomersall/2020VISION
Gwenynen fêl
Mae gwenyn mêl wedi bod yn gwneud mêl i bobl ers miloedd o flynyddoedd! Mae’r gwenyn yma sy’n hawdd eu hadnabod yn weithwyr caled, yn byw mewn cychod mawr wedi’u creu o grwybrau cwyr.
Enw gwyddonol
Apis melliferaPryd i'w gweld
Mawrth i MediSpecies information
Ystadegau
Hyd: 1.2 cmCyffredin
Ynghylch
Y wenynen fêl yw’r wenynen fwyaf cyfarwydd mae’n debyg ac mae wedi bod yn gwneud mêl i bobl ers miloedd o flynyddoedd. Yn y gwyllt, maen nhw’n byw mewn ardaloedd coediog mewn cychod gwenyn mawr wedi’u creu o grwybrau cwyr. Mae’r frenhines yn dodwy wyau tra mae’r gweithwyr yn gofalu am y rhai bach, fel meithrinfa wenyn enfawr bron! Bob blwyddyn bydd brenhines newydd yn dod i gymryd lle ei mam, neu bydd yn dechrau gadael y boblogaeth ei hun.Sut i'w hadnabod
Mae’n anodd iawn camgymryd y wenynen fêl ddu ac aur gyfarwydd am unrhyw bryf arall. Mae sawl rhywogaeth o bryfed hofran yn edrych yn debyg, ond mae ganddyn nhw lygaid llawer mwy.Dosbarthiad
EangRoeddech chi yn gwybod?
Gall un cwch gwenyn gynnwys cymaint â 50,000 o unigolion. Yn ystod y gaeaf, goroesi yw nod y cwch gwenyn: mae’r gwenyn segur yn cael eu gwahardd, mae’r gweithwyr yn swatio gyda’i gilydd i gadw’n gynnes ac mae’r larfa’n bwydo ar stôr o baill a mêl. Yn y gwanwyn, mae cenhedlaeth newydd o wenyn yn dod allan o’r cwch.
Illustration by Corinne Welch